Lleoliad:
Hybrid -
Ystafell Bwyllgora 5 Tŷ Hywel a fideogynadledda drwy
Zoom
Dyddiad:
Dydd Iau, 14 Medi 2023
Amser:
09.34 -
12.55
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13467
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Jayne Bryant AS (Cadeirydd) James Evans AS Heledd Fychan AS Laura Anne Jones AS Ken Skates AS Buffy Williams AS |
Tystion: |
Julie Morgan AS, Y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol Alistair Davey, Llywodraeth Cymru Albert Heaney, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Naomi Stocks (Clerc) Tom Lewis-White (Ail Glerc) Sarah Bartlett (Dirprwy Glerc) Jennifer Cottle (Cynghorydd Cyfreithiol) Michael Dauncey (Ymchwilydd) Sian Hughes (Ymchwilydd) Sian Thomas (Ymchwilydd) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg.
1.2 Ni chafwyd
ymddiheuriadau.
2 Gwasanaethau i blant sydd â phrofiad o ofal: trafod diwygio radical - sesiwn graffu ar waith y Gweinidog
2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol.
2.2 Cytunodd y Dirprwy Weinidog i ddarparu'r canlynol:
- rhagor o wybodaeth am y datblygiadau radical sy'n digwydd, gan gynnwys y pedair safon ddrafft a gynhyrchwyd;
- eglurder ynghylch canran y staff gwasanaethau plant yng Nghymru sy'n weithwyr asiantaeth;
- adborth, pan fydd ar gael, o'r adolygiad annibynnol o leoliadau asesu rhianta; a
- rhagor o wybodaeth ynghylch ariannu eiriolaeth rhieni yn y tymor hir.
3 Papurau i'w nodi
3.1 Cafodd y
papurau eu nodi.
4 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod hwn ac o'r cyfarfod cyfan ar 27 Medi
4.1 Derbyniwyd y cynnig.
5 Gwasanaethau i blant sydd â phrofiad o ofal: trafod diwygio radical - ystyried y dystiolaeth.
5.1 Trafododd Aelodau, sefydliadau a phlant a phobl ifanc y dystiolaeth a glywyd yn y sesiwn flaenorol.
5.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Dirprwy Weinidog i fynd ar drywydd rhai o'r materion a godwyd.
6 Cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2024-25 – trafod y dull o weithredu
6.1 Cytunodd y
Pwyllgor ar ei ddull ar gyfer craffu ar gyllideb ddrafft
Llywodraeth Cymru.
7 A yw plant a phobl ifanc anabl yn cael mynediad cyfartal at addysg a gofal plant? - Y newyddion diweddaraf am yr ymchwiliad
7.1 Cafodd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am yr ymchwiliad.
7.2 Cytunodd yr Aelodau ar sesiynau tystiolaeth lafar ychwanegol gyda chynrychiolwyr gweithwyr meddygol a phroffesiynau perthynol i iechyd.